Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(210)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y cyngor a gafwyd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i beidio â gwneud unrhyw sylw ar faterion sy’n ymwneud â Cylchdaith Cymru, yn unol â’r hyn a ddatgelwyd yn adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol a osodwyd yn y llyfrgell ar 1 Gorffennaf?

 

</AI3>

<AI4>

3 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch Ariannu Addysg Uwch (60 munud)

NDM5544 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2014

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

</AI4>

<AI5>

4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru;

 

2. Yn gresynu at:

 

a) diffyg cyllid Llywodraeth Cymru i Croeso Cymru;

 

b) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol;

 

c) uchelgais cul Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella nifer yr ymwelwyr tramor â Chymru;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar sut y mae'n ymgynghori â darparwyr twristiaeth yng Nghymru ac yn cael ei harwain ganddynt.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall y diwydiant twristiaeth wneud y mwyaf o botensial ein treftadaeth gyfoethog a'n hamgylchedd amrywiol, yn ogystal â manteisio ar ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 2b newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

diffygion o ran gwasanaethau band eang a derbyniad ffôn symudol mewn ardaloedd gwledig sy'n llesteirio gallu cystadleuol a hygyrchedd busnesau o fewn y sector twristiaeth;

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu a monitro data sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a gwybodaeth am y farchnad i lywio blaenoriaethau strategol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.

 

</AI5>

<AI6>

5 Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5545 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

2. Yn nodi nad yw'r adroddiad yn ymdrin yn gynhwysfawr â gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, yn sgil y cylch gorchwyl a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

3. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

 

4. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod etholiad nesaf y Cynulliad.

 

Mae adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn:

 

http://cymru.gov.uk/topics/improvingservices/public-service-governance-and-delivery/report/?skip=1&lang=cy

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 2.

 

Gwelliant 2 -  Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y byddai’r atebolrwydd ychwanegol a fyddai’n deillio o system bleidleisio deg yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod yr angen am werthusiadau cost llawn cyn cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â newidiadau strwythurol i wasanaethau cyhoeddus.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

</AI7>

<AI8>

6 Dadl Fer (30 munud)

NDM5543 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Gweinyddu cynllun y bathodyn glas gan gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Gorffennaf 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>